Isaiah 38

Heseceia'n cael ei daro'n wael, a bron yn marw

(2 Brenhinoedd 20:1-11; 2 Cronicl 32:24-26)

1Tua'r adeg yna roedd Heseceia'n sâl. Roedd yn ddifrifol wael, a bu bron iddo farw.

Daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud wrtho, “Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: Rho drefn ar dy bethau, achos ti'n mynd i farw; dwyt ti ddim yn mynd i wella.”

2Ond dyma Heseceia yn troi at y wal ac yn gweddïo, 3“O Arglwydd, plîs cofia sut dw i wedi byw yn hollol ffyddlon i ti. Dw i bob amser wedi gwneud beth oedd yn dy blesio di.” Roedd yn beichio crïo.

4Yna dyma'r Arglwydd yn rhoi neges i Eseia: 5“Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia:

‘Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud (Duw Dafydd dy dad): “Dw i wedi gwrando ar dy weddi di, ac wedi gweld dy ddagrau di. Dw i'n mynd i roi un deg pump mlynedd arall i ti.
6Dw i'n mynd i dy achub di a'r ddinas yma o afael brenin Asyria. Bydda i'n amddiffyn y ddinas yma.”

7“‘A dyma'r arwydd mae'r Arglwydd yn ei roi i ti i brofi y bydd e'n gwneud beth mae e wedi ei addo: 8Edrych! Dw i'n mynd i wneud i'r cysgod sydd wedi disgyn ar risiau Ahas fynd yn ôl i fyny ddeg gris.’” Yna dyma gysgod yr haul yn codi oddi ar ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi disgyn arnyn nhw.

9Dyma ysgrifennodd Heseceia, brenin Jwda, ar ôl iddo wella o'i salwch:

10“Dywedais,

‘Dw i'n mynd i farw, a minnau ond canol oed.
Dw i wedi cael fy anfon drwy giatiau Annwn
38:10 Annwn Hebraeg,  Sheol, sef "y byd tanddaearol ble mae'r meirw yn mynd"

am weddill fy nyddiau.’

11Dywedais:

‘Ga i byth weld yr Arglwydd
yn y bywyd hwn eto;
nac edrych ar y ddynoliaeth
fel y rhai sydd wedi peidio â bod.’
12Mae fy mywyd wedi ei gymryd oddi arna i
a'i symud fel pabell bugail.
Roedd fy mywyd wedi ei rholio i fyny fel lliain
wedi ei dorri i ffwrdd o'r wŷdd.
Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i.
13Yn y bore, roedd fel petai llew yn malu fy esgyrn i gyd.
Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i.
14Dw i'n trydar fel gwennol neu durtur,
ac yn cŵan fel colomen,
wrth i'm llygaid blinedig fethu edrych i fyny.
‘Fy Arglwydd! Dw i'n cael fy llethu!
Achub fi!’
15Beth alla i ei ddweud?
Dwedodd wrtho i beth fyddai'n ei wneud,
a dyna wnaeth e!
Roedd rhaid i mi gerdded yn ofalus
am fod fy enaid mor chwerw.
16Mae fy arglwydd wedi fy nghuddio,
ac mae bywyd yn fy nghalon eto.
Mae'r Arglwydd wedi rhoi gorffwys i mi.
‘Rwyt ti'n fy iacháu ac wedi fy nghadw'n fyw.’
17Yn wir, roedd yr holl chwerwder yma
yn lles i mi:
‘Ceraist fi, a'm hachub o bwll difodiant,
a thaflu fy holl bechodau tu ôl i ti.
18Dydy'r rhai sydd yn Annwn
38:18 Annwn Hebraeg,  Sheol, sef "y byd tanddaearol ble mae'r meirw yn mynd"
ddim yn diolch i ti,
a dydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn dy foli di.
Dydy'r rhai sydd wedi disgyn i'r pwll
ddim yn gobeithio yn dy ffyddlondeb di.
19Y rhai byw, dim ond y rhai byw
sy'n gallu diolch i ti
fel dw i'n gwneud heddiw.
Mae tad yn dweud wrth ei blant
am dy ffyddlondeb di:
20Mae'r Arglwydd wedi'n hachub ni!
Gadewch i ni ganu offerynnau cerdd
yn nheml yr Arglwydd
weddill ein bywydau!’”

21Roedd Eseia wedi dweud, “Ewch i nôl bar o ffigys wedi eu gwasgu a'i roi ar y chwydd sydd wedi casglu, a bydd yn gwella.” 22Roedd Heseceia wedi gofyn, “Pa arwydd ga i y bydda i'n mynd i fyny i deml yr Arglwydd eto?”

Copyright information for CYM